Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

 

Dyddiad:        9 Tachwedd 2017

Lleoliad:         Senedd Bae Caerdydd

Teitl:               Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2018-19

 

1.   Diben

 

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Awst yn eu gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ar eu cynigion ar y Gyllideb Ddrafft ac yn gofyn iddynt ddarparu papur ar y Gyllideb Ddrafft.

 

2.   Cyflwyniad

 

Mae dau gam i broses y Gyllideb Ddrafft.  Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft amlinellol (Cam 1) ar 3 Hydref 2017, a'r gyllideb fanwl (Cam 2) ar 24 Hydref.  Mae’r gyllideb ddrafft amlinellol yn canolbwyntio ar amlen ariannol Llywodraeth Cymru a phrif ddyraniadau ar lefel y Prif Grwpiau Gwariant (MEG), ac mae’r gyllideb fanwl yn cwmpasu cynlluniau gwariant ar y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) ar gyfer pob MEG.

 

Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gynigion cyllideb y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar gyfer 2018-19 ac mae hefyd yn darparu gwybodaeth am feysydd o ddiddordeb penodol i’r Pwyllgor.

 

3.   Trosolwg o’r Gyllideb

 

 

2018-19

Refeniw

£m

Gwaelodlin Diwygiedig DEL 2017-18

7,018.570

Dyraniad MEG

230.000

Gostyngiad Arbedion Cytunedig MEG

(7.292)

Arbedion grantiau Penodol Cytunedig

(2.400)

Trosglwyddiadau MEG i MEG

(7.670)

DEL Diwygiedig fel ar Gyllideb Ddrafft 2017

7,231.208

Cyfalaf

 

Gwaelodlin cyfalaf yn unol â Chyllideb Derfynol 2017-18

260.289

Dyraniad MEG

23.500

Trosglwyddiadau MEG i MEG

10.985

DEL Diwygiedig fel ar Gyllideb Ddrafft 2017

294.774

Cyfanswm y MEG HWB&S

7,525.982

Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol, sydd y tu hwnt i Derfyn Gwariant Adrannol (DEL) Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r tabl canlynol yn dangos y cysoniad rhwng y gyllideb Atodol Gyntaf gyhoeddedig ar gyfer 2017-18 â’r gwaelodlin diwygiedig ar gyfer pob elfen o’r MEG.

 

 

Refeniw DEL

£m

Cyllideb Atodol Gyntaf Gyhoeddedig 2017-18

7,065.650

Trosglwyddiad i’r MEG Llywodraeth Leol

(30.000)

Gwrthdroi trosglwyddiad MEG Cynllun Bwrsariaeth y GIG

0.800

Dileu cyllid anghylchol

(17.880)

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

7,018.570

DEL Cyfalaf

 

Cyllideb Atodol Gyntaf Gyhoeddedig 2017-18

251.971

Addasiad i gyd-fynd â chynlluniau 2018-19 (yn unol â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2017-18)

8.318

Y gwaelodlin diwygiedig fel yng Nghyllideb Derfynol 2017-18

260.289

 

O gymharu â gwaelodlinau diwygiedig 2017-18, mae cyfanswm y dyraniad refeniw ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedi cynyddu £212.638 miliwn a chynnydd o £34.485 miliwn ar gyfer cyfalaf. Yn gryno, mae’r symudiadau fel a ganlyn:

 

Refeniw

£m

Buddsoddiad ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r GIG yng Nghymru

230.000

Arbedion net wedi’u trosglwyddo i’r cronfeydd wrth gefn

(9.692)

Trosglwyddiad i’r MEG Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r adolygiad o Grantiau (Grant Byw’n Annibynnol Cymru (£27.000 miliwn) ac Ystadau Diogeledd (£0.39 miliwn))

(27.391)

Trosglwyddiad i MEG Gweinyddu Gwasanaethau Canolog Cymru ar gyfer Grant Affrica

(0.050)

Trosglwyddiad o MEG Gweinyddu Gwasanaethau Canolog Cymru ar gyfer addasiad gwaelodlin Buddsoddi i Arbed 2017-18

9.049

Trosglwyddiad i MEG Gweinyddu Gwasanaethau Canolog ar gyfer cymeradwyaeth Buddsoddi i Arbed

(0.278)

Buddsoddiad Cytundeb y Gyllideb Ychwanegol

11.000

Cynnydd refeniw net

212.638

Cyfalaf

 

Buddsoddiad ychwanegol o gronfeydd wrth gefn

23.500

Trosglwyddo i MEG Gweinyddu Gwasanaethau Canolog ar gyfer Buddsoddi i Arbed 2018-19

(0.015)

Buddsoddiad Cytundeb y Gyllideb Ychwanegol

11.000

Cynnydd cyfalaf net

34.485

 

Dangosir manylion pob trosglwyddiad yn Atodiad A y papur hwn.

 

4.   Yr ymateb i gynigion y Gyllideb

 

Mae’r Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer poblogaeth iach ac egnïol.  Mae’n cynnwys y cyllid refeniw a chyfalaf drafft ar gyfer GIG Cymru, yn ogystal â chyllid ar gyfer:

·         Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhaglenni eraill iechyd y cyhoedd

·         addysg a hyfforddiant gweithlu’r GIG

·         cyllidebau eraill y GIG a rhaglenni iechyd, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau ac ymchwil a datblygu

·         cefnogi gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys cyllid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru, darperir y brif elfen gofal cymdeithasol drwy’r MEG Llywodraeth Leol

·         cefnogi chwaraeon cymunedol ac elitaidd, gan gynnwys cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad yn y GIG yng Nghymru.  Y newid cyllidebol mwyaf arwyddocaol i’r MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar gyfer 2018-19 yw’r buddsoddiad ychwanegol o £450 miliwn yn y GIG yng Nghymru yn y ddwy flynedd nesaf.  Dangosodd tystiolaeth o adroddiadau diweddar gan y Sefydliad Iechyd ac Ymddiriedolaeth Nuffield y byddai angen i’r gwariant ar iechyd gynyddu’n flynyddol er mwyn gallu darparu ar gyfer poblogaeth sy’n gynyddol oedrannus, ac yn sgil achosion cynyddol o gyflyrau cronig, megis diabetes.  Drwy’r buddsoddiad ychwanegol hwn, rydym yn cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd y gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn y tymor canolig a’r tymor hwy.

 

Darperir manylion am ddyraniad y cyllid hwn i sefydliadau’r GIG yn nyraniadau refeniw GIG 2018-19, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn yr hydref.

 

Rydym wedi adolygu a lleihau’r cynlluniau gwariant ar gyfer rhai rhaglenni iechyd a llesiant canolog, lle y gallwn fod yn sicr y gellir lliniaru effeithiau’r gostyngiadau hyn drwy feysydd cyllid craidd eraill.  Byddwn yn parhau i fonitro effaith y newidiadau gwariant hyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn ein hatal rhag cyflawni ein nod o sicrhau Ffyniant i Bawb.

 

5.   Trefniadau cyllido ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol

 

Er mwyn helpu gyda gwaith craffu’r Pwyllgor ac i ddarparu gwell dealltwriaeth o sut mae’r GIG yn gwario ei ddyraniad cyllid, sydd wedi’i fanylu yn yr adran ‘Darparu Gwasanaethau Craidd y GIG’, mae’r adran ganlynol yn darparu mwy o wybodaeth am y trefniadau cyllido ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol.

 

Yn nhablau’r Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL) yn Atodiad A, mae BEL Dyraniadau Craidd y GIG yn dangos cyllideb o £6.5 biliwn ar gyfer 2018-19.  Er gwaethaf rhai mân addasiadau, y gyllideb hon yw’r brif gyllideb dyraniad refeniw a gyhoeddir i Fyrddau Iechyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol.  Mae’r dyraniad yn darparu cyllid ar gyfer:

 

·         Dyraniad dewisol refeniw ar gyfer presgripsiynu Gofal Iechyd a Gwasanaethau Ysbyty   

·         Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Ysbyty sydd wedi’u diogelu a’u clustnodi

·         Dyraniad Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

·         Dyraniad Contract Fferylliaeth Gymunedol

·         Dyraniad Contract Deintyddol

Cyhoeddwyd dyraniad refeniw Byrddau Iechyd ar gyfer 2017-18 ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn cyflwyno’r dyraniadau rhwng y llifau cyllido amrywiol uchod.  Mae’r tabl isod yn crynhoi’r dyraniad gan y Bwrdd Iechyd ei hun.

 

Dyraniadau Refeniw ar gyfer Byrddau Iechyd yn 2017-18

Bwrdd Iechyd

Dyraniad Disgresiwn a Phresgripsiynu

Dyraniad wedi’i Neilltuo

Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

Contract Fferylliaeth

Contract Deintyddol

Cyfanswm

 

£miliwn

£miliwn

£miliwn

£miliwn

£miliwn

£miliwn

ABM

743.608

172.827

75.428

29.335

27.082

1,048.280

AB

841.766

147.338

85.870

31.453

27.107

1,133.534

BC

989.138

202.681

116.087

33.471

27.097

1,368.474

C a’r Fro

613.716

124.949

64.568

22.218

24.497

849.948

CT

455.740

91.352

45.617

18.501

11.733

622.943

H Dda

530.815

112.761

60.879

20.923

17.576

742.954

Powys

185.316

42.103

30.659

4.753

5.577

260.408

Cyfanswm

4,361.099

894.009

479.109

160.654

140.669

6,035.540

 

Nid yw’r ffigurau yn y tabl uchod yn cynnwys y cyllid a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn yn 2017-18 na’r cyllid yr wyf wedi’i ddal yn ôl yn 2017-18 ar sail anghylchol er mwyn gallu rheoli’r diffyg yn y pedwar bwrdd iechyd a’i atal rhag gwaethygu.  Nid wyf wedi penderfynu eto mewn manylder pa ddefnydd a wneir o’r cyllid hwn sydd heb ei ddyrannu o 2017-18 i gynorthwyo’r gwaith o ddarparu a gweddnewid gwasanaethau yn 2018-19, ynghyd â’r £230 miliwn ychwanegol ar gyfer y GIG a gyhoeddwyd yn y gyllideb Ddrafft ar gyfer 2018-19.  Rwy’n cyflwyno manylion pellach am fy nghynlluniau yn ddiweddarach yn y papur hwn.

 

O fewn y BEL ‘Dyraniadau Craidd y GIG’, mae rhai elfennau o gyllid sy’n cael eu rhoi i Fyrddau Iechyd yn ystod y flwyddyn, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol, neu feini prawf y cytunwyd arnynt a allai amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y symiau cyllid cylchol uchod.  Mae enghreifftiau o’r eitemau gwariant hyn yn cynnwys:

 

 

6.     Gwariant yn ôl Categori Cyllidebau Rhaglenni

 

Gellir dangos dadansoddiad pellach o wariant hanesyddol yn ôl categori Cyllidebau Rhaglenni.  Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynhyrchu bob blwyddyn ond bydd ond ar gael tua 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.  O ganlyniad, mae’r wybodaeth a ddangosir yn y tabl wedi’i llunio o’r gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol 2015-16.  Mae’r meysydd gwariant wedi’u dangos yn y graff isod:

 

 

Mae’r categorïau gwariant uchod yn seilieidg ar Ddosbarthiad Rhyngwladol Clefydau Sefydliad Iechyd y Byd

 

Mae’r siart uchod yn dangos y prif feysydd gwariant yn y GIG yng Nghymru.  Mae’r wybodaeth wedi’i chasglu o ffurflenni cyllidebu rhaglenni ar gyfer 2015-16 ac mae’n cwmpasu mwy na 93% o’r gwariant yn y flwyddyn honno (tua £6.1 biliwn).  D.S. Nid yw’r wybodaeth am gyllidebau rhaglenni ar gael ar gyfer 2016-17 ar hyn o bryd, a disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2018.

 

7.   Gwariant Ataliol

 

Ein nod yw cymryd camau breision i newid ein dull gweithredu o drin clefydau i’w hatal.  I gynorthwyo gyda hyn, rydym wedi cynnal adolygiad o’n cynlluniau gwario er mwyn asesu'r lefel bresennol o wariant ar atal.  Nid yw diffiniadau cyson o atal yn cael eu defnyddio gan y llywodraeth, ond mae’r Tasglu Gweithredu Cynnar, a gynhyrchodd yr adroddiad ‘Towards Effective Prevention’ wedi adeiladu ar y diffiniadau arfaethedig a gyflwynwyd yn adolygiad tirlun gweithredu cynnar Swyddfa Archwilio Cymru, a’u datblygu yn drafodaethau gydag ymarferwyr. Mae gwaith ar y gweill i benderfynu ar set o ddiffiniadau o atal ar draws Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar y gwaith hwn. Rydym wedi dosbarthu gwariant gan gynnwys diffiniadau’r Tasglu Gweithredu Cynnar.

 

Wrth edrych ar ein gwariant atal ar gyfer cyllidebau Canolog Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, rydym wedi eu diffinio fel a ganlyn:

 

Diffiniad

Esboniad o’r Diffiniad

Lefel Atal Sylfaenol

Atal problemau, neu leihau’r risg y bydd problemau’n codi fel arfer drwy bolisïau cyffredinol gan gynnwys hybu iechyd neu raglen frechu.

Lefel Atal Eilaidd

Targedu unigolion neu grwpiau sy’n wynebu risg uchel neu sy’n dangos arwyddion cynnar o broblem benodol er mwyn ei hatal rhag digwydd.  Er enghraifft rhaglenni sgrinio.

Lefel Atal Trydyddol

Ymyrryd unwaith y bydd problem, er mwyn ei hatal rhag gwaethygu, ac unioni’r sefyllfa.  Er enghraifft, yr ymgyrch “Dewis Doeth” neu gyllid ar gyfer therapïau seicolegol.

Gwariant Acíwt

Gwariant sy’n gweithredu i reoli effaith sefyllfa negyddol iawn ond nad yw’n gwneud llawer, os o gwbl, i atal canlyniadau negyddol.

 

 

Rydym wedi adolygu ein cyllidebau a gedwir yn ganolog yn erbyn y categorïau uchod a dangosir y rhaniad o ran canran yn y tabl isod:

 

 

[Percentage split] Rhaniad canran y gwariant ar atal yng nghyllidebau canolog

Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

[Primary] Sylfaenol [Secondary] Eilaidd [Tertiary] Trydyddol [Acute] Acíwt

 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu gofynion manwl ar gyfer sefydliadau’r GIG ar sut y dylent ddefnyddio eu dyraniad refeniw yn ôl disgresiwn i ddiwallu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, a chyfran y cyllid y dylent ei gwario ar weithgareddau ataliol. Felly o ran asesu lefel gwariant y GIG ar waith atal, bu’n rhaid inni ddefnyddio dull arall.  Yng nghyhoeddiad Cyfrifon Iechyd y DU 2015, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Ebrill 2017, mae’r dadansoddiad o wariant yn ôl swyddogaeth gofal iechyd wedi nodi, ar lefel y DU, bod cyfanswm y gwariant ar atal gyfwerth â £9.6 biliwn o gyfanswm y gwariant o £185 biliwn.  Ar gyfer gofal iechyd sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, mae’r gwariant ar waith atal gyfwerth â £7.4 biliwn, neu 5.05% o gyfanswm gwariant gofal iechyd y Llywodraeth, o £147.1 biliwn.

 

Cyfrifon Iechyd y DU 2015 yw’r ail fersiwn o’r cyhoeddiad newydd a gynhyrchwyd yn unol â Chyfrifon System Iechyd 2011 (SHA 2011), sy’n darparu diffiniadau rhyngwladol safonol ar gyfanswm y gwariant presennol ar ofal iechyd a’r dadansoddiad o’r gwariant hwn yn ôl cynllun ariannol, swyddogaeth a sefydliadau darparu.  Mae’r diffiniad o ofal iechyd a ddefnyddir mewn cyfrifon iechyd ychydig yn fwy eang na’r hyn a gydnabyddir fel arfer, ac mae’n cynnwys nifer o wasanaethau sydd fel arfer yn cael eu hystyried yn ofal cymdeithasol yn y DU.

 

Mae’r Grŵp Llywio Cyfrifon Iechyd sy’n cael eu harwain gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried a fyddai’n bosibl i gyhoeddiadau blynyddol gynnwys dadansoddiad o wariant y DU yn ôl gwledydd unigol yn y dyfodol.  Ar hyn o bryd nid oes penderfyniad wedi’i wneud ar y datblygiad hwn, fodd bynnag, cytunwyd gyda’r grŵp llywio (sy’n cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig) y byddai’n bosibl drwy hyn i nodi gwariant ar waith atal yn ôl gwledydd unigol.  Disgwylir i Gyfrifon Iechyd nesaf y DU, Cyfrifon Iechyd 2016 y DU, gael eu cyhoeddi ddechrau 2018.  Byddwn yn parhau gyda’r gwaith i wella ein dealltwriaeth o wariant ar weithgareddau ataliol.

 

Mae rhai o’r enghreifftiau penodol lle rydym yn darparu cyllid ataliol yn cynnwys:

 

 

8.    Cyllid cyfalaf

 

Rydym yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiadau yn seilwaith y GIG, ac mae gennym raglen uchelgeisiol ar gyfer y tair blynedd nesaf lle y bydd cyfleusterau newydd yn cael eu cyflwyno ac ailddatblygiadau mawr i rai o’n hasedau mwyaf strategol.

 

Dechreuodd y gwaith ar Ysbyty Athrofaol y Grange yn ystod Gorffennaf 2017 ac mae hyn yn elfen hollbwysig o Raglen Gyfalaf GIG Cymru ar gyfer y dyfodol.  Disgwylir i’r ysbyty modern 470 gwely agor yn 2021.  Mae gwaith ailddatblygu a moderneiddio sylweddol yn cael ei wneud hefyd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Glan Clwyd, ac yn 2018-19 bydd gwaith yn parhau i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.

 

Yn ogystal â chynlluniau yn y sector acíwt, mae’r gyllideb hon yn darparu £11 miliwn y flwyddyn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Canolfan Gofal Integredig Aberteifi fel rhan o’r trefniant ynglŷn â’r gyllideb gyda Phlaid Cymru.  Yn amodol ar gymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn yn ddiweddarach yr hydref hwn, disgwylir i waith ddechrau ym mis Ebrill 2018, gyda chyfnod adeiladu arfaethedig o 17 mis.

 

Y flwyddyn nesaf bydd buddsoddiad o £10 miliwn hefyd i ddatblygu nifer o brosiectau gofal sylfaenol a chymunedol, fel rhan o gyflawni ymrwymiad Symud Cymru Ymlaen, sy’n cael ei ailadrodd yn Ffyniant i Bawb, er mwyn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ganolfannau iechyd a gofal integredig.  Bydd y cynlluniau hyn yn gweld 19 o brosiectau’n cael eu cyflawni ar hyd a lled Cymru erbyn 2021.  Rwyf eisoes wedi cyhoeddi gwerth £40.5 miliwn o gyllid cyfalaf er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn.  Fel rhan o’r gyllideb hon, rwy’n adeiladu ar y dyraniad cyllid hwn a gallaf gadarnhau yn awr gyfanswm o £68 miliwn o gyfalaf, i’w ddefnyddio yn y tair blynedd nesaf, i gyflawni’r cynlluniau.

 

Mae’r gyllideb hon hefyd yn darparu £3.5 miliwn yn 2018-19 i gefnogi’r gwaith o gyflawni Rhaglen Cyfathrebu Symudol y Gwasanaethau Brys (ESMCP).  Bydd hyn yn darparu system gyfathrebu'r genhedlaeth nesaf ar gyfer y tri gwasanaeth brys (yr heddlu, tân ac achub ac ambiwlans) a defnyddwyr diogelwch y cyhoedd eraill yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.  Cafodd ESMCP ei sefydlu gan y Swyddfa Gartref i ddarparu gwasanaeth cyfathrebu data llais a band eang critigol ac integredig ar gyfer y Gwasanaethau Brys, sy’n cyflawni gofynion diogelwch y cyhoedd o ran cwmpas, ymarferoldeb, argaeledd a chraffu.  Defnyddir y cyllid sydd wedi’i glustnodi gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel rhan o’i waith paratoi a chyflwyno.

 

9.     Meysydd Penodol

                                   

Sylwadau ar y Camau Gweithredu a manylion dyraniadau’r Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL)

 

Roedd y gyllideb fanwl a gyhoeddwyd ar 24 Hydref yn cyflwyno ein cynlluniau gwario ar gyfer y MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ôl dyraniadau’r Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL).  Nodir dadansoddiad ac esboniad o’r newidiadau i’r gyllideb ers Cyllideb Atodol Mehefin 2017 yn Atodiad A. 

 

Iechyd Meddwl

 

Y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl:  Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r GIG yng Nghymru.  Y gyllideb sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer iechyd meddwl yw £629 miliwn ar gyfer 2017-18.  Yn unol â Chytundeb y Gyllideb gyda Phlaid Cymru, byddwn yn cynyddu’r dyraniad sydd wedi’i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl £20 miliwn arall yn 2018-19 a 2019-20, i bron £650 miliwn.  Mae’r dyraniad sydd wedi’i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl yn creu swm amddiffynnol, ac ni ddylai’r gwariant ar wasanaethau craidd ostwng islaw hynny.

Cytundeb y Gyllideb: Cyllid cylchol ar gyfer Anhwylderau Bwyta, Gwasanaethau Hunaniaeth o ran Rhywedd a Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn sicrhau bod yr £1 filiwn o gyllid ychwanegol ar gyfer 2017-18 i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta a hunaniaeth o ran rhywedd yn cael ei ddarparu ar sail gylchol.

Anhwylderau Bwyta: Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £1.25 miliwn y flwyddyn i wella’r ddarpariaeth i blant ac oedolion.  Mae’r £0.500 miliwn yn cael ei dargedu at wasanaethau i bobl ifanc hŷn, wrth iddynt bontio rhwng y gwasanaethau i blant ac oedolion.  Yn benodol, caiff y cyllid ei ddefnyddio i feithrin perthnasoedd gwaith agos rhwng timau anhwylderau bwyta presennol CAMHS a thimau anhwylderau bwyta lefel 3 oedolion, gan gydweithio er budd gorau’r claf mewn model gofal dan arweiniad clinigol, yn hytrach na model sy’n cael ei arwain gan oedran.  Mae hyn yn cynnwys gwella hyfforddiant a darparu sesiynau ychwanegol ar gyfer staff presennol, a recriwtio staff arbenigol newydd.

Gwasanaethau Hunaniaeth o ran Rhywedd: Mae Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru Gyfan (AWGIPG) yn arwain y gwaith o ddatblygu llwybr triniaeth newydd i Gymru.  Mae hyn yn cynnwys datblygu gwasanaeth amlddisgyblaeth newydd, a elwir yn Dîm Rhywedd Cymru.  Bydd y Tîm yn darparu cymorth i rwydwaith o feddygon teulu ar hyd a lled Cymru gyda diddordeb arbenigol ym mhob maes o ofal rhywedd, gan gynnwys therapi amnewid hormonau, a bydd yn darparu atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu.  Mae’r Tîm yn bwriadu derbyn atgyfeiriadau newydd ac adfer unigolion priodol sydd ar restrau aros ar gyfer triniaeth o ddiwedd Mawrth y flwyddyn nesaf.  Bydd y set newydd hon o drefniadau yn arwain at bellteroedd teithio byrrach er mwyn cael mynediad i wasanaethau, amseroedd aros byrrach a phrofiad gwell i ddefnyddwyr.

 

Cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl: Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn cynnwys £20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.  Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith parhaus o gyflawni’r blaenoriaethau yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Ffyniant i Bawb.

 

Dyraniadau ar gyfer cyflawni’r strategaeth a’r cynllun cyflawni iechyd meddwl

Y gwariant ar iechyd meddwl yw’r maes unigol mwyaf yn y gyllideb a gofynnir i fyrddau iechyd roi ystyriaeth gymesur i hyn yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.  Mae cynllun cyflawni 2016-19, a gyhoeddwyd i ategu’r strategaeth “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” yn cyflwyno blaenoriaethau clir a disgwylir i’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hefyd arddangos bod y sefydliad yn cyflawni’r blaenoriaethau hyn.  Dylai’r Cynlluniau ddangos sut mae’r sefydliad yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a sut mae’r sefydliad yn darparu mynediad a chanlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth o’r buddsoddiad arwyddocaol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wrth ddarparu meysydd darpariaeth penodol.  Yn fwy cyffredinol, dylai’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig gyflwyno’r rhaglenni newid gwasanaethau sefydliadol yn glir i sicrhau bod gofal o ansawdd uchel, sy’n gynaliadwy, hygyrch ac amserol ar gael sydd ag amserlenni a risgiau cysylltiedig.

 

Y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu darparu ar yr ystâd carchardai

Nid yw cyllid iechyd meddwl ar gyfer carcharorion yn cael ei nodi ar wahân yn nyraniad cyllid y GIG.  Byrddau Iechyd sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau ysbytai ac iechyd cymunedol ar gyfer eu poblogaeth a bydd hyn yn cynnwys y boblogaeth carchardai yn eu hardal.

 

Patrymau galw a’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y 5 mlynedd diwethaf

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael o ffurflenni cyllideb Rhaglenni’r GIG yn berthnasol i’r cyfnod 2011-12 i 2015-16.  Mae hyn yn dangos bod y gwariant ar Iechyd Meddwl wedi cynyddu £40 miliwn o £642 miliwn yn 2011-12 i £683 miliwn yn 2015-16.

Ers 2015-16, mae £25 miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu’n rheolaidd i Fyrddau Iechyd er mwyn targedu’r ddarpariaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac fel rhan o gytundeb y gyllideb ar gyfer 2018-19, ychwanegir £20 miliwn at y dyraniad Iechyd Meddwl.  Mae hyn yn gyfanswm o £45 miliwn o gynnydd yn y gyllideb yn y cyfnod tair blynedd hwnnw.

 

Manylion gweithredu’r cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer y gyllideb iechyd meddwl, gan gynnwys ei lefel, diffinio’r hyn y mae’n ei gynnwys, y graddau y mae wedi pennu’r gwariant ar iechyd meddwl; a diben a gwerth y cyllid wedi’i glustnodi a’r cynlluniau ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol.

 

Mae cyllid iechyd meddwl wedi’i glustnodi ers 2008.  Bwriad clustnodi’r gyllideb hon yw diogelu a gwella gwasanaethau craidd ac mae hefyd yn cynnwys gwasanaethau arbenigol a gwariant ar ofal sylfaenol.  Mae’r gyllideb sydd wedi’i chlustnodi yn darparu trothwy na ddylai’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl fynd yn is nag ef ac mae’n rhaid ail-fuddsoddi unrhyw arbedion yn y gwasanaethau iechyd meddwl.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl yn y blynyddoedd diwethaf, fel cydnabyddiaeth o’r meysydd sydd wedi profi cynnydd yn y galw am wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau CAMHS, iechyd meddwl pobl hŷn, gwasanaethau amenedigol cymunedol a therapïau seicolegol.  Y byrddau iechyd sy’n gyfrifol am ddangos dealltwriaeth o anghenion iechyd meddwl a llesiant meddwl eu poblogaeth eu hunain ar hyd y cwrs bywyd ac fel rhan o’r gwaith hwn maent yn cynnwys dadansoddiad o gapasiti a galw sydd hefyd yn dangos sut mae byrddau iechyd yn ymdrin â meysydd i’w gwella.  Bydd hyn yn cael ei fonitro drwy’r broses Cynllun Tymor Canolig Integredig.

 

Newidiadau eraill i Gytundeb y Gyllideb:

 

Cyllid rheolaidd ar gyfer Gofal Diwedd Oes: Bydd cyllid ychwanegol o £1 filiwn yn galluogi’r Bwrdd Gofal Diwedd Oes i barhau i ddatblygu ei flaenoriaethau cenedlaethol.  Mae’r rhain yn cynnwys datblygu capasiti pellach yn y ddarpariaeth Hosbis yn y Cartref, grymuso cleifion i ddatblygu cynlluniau gofal, cynorthwyo pobl i aros yn eu man preswylio, gwella gofal ar ôl profedigaeth a bydd hefyd yn galluogi defnydd gwell o dechnoleg ac ymchwil digidol.

Cyllid ar gyfer Cynllun Peilot Buurtzorg Cymru:  Bydd y cyllid gwerth £4 miliwn hwn yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno elfen o ddull Buurtzog yng Nghymru, yn unol ag egwyddorion Staff nyrsio ar gyfer nyrsys cymunedol.  Bydd hyn yn canolbwyntio ar hyfforddi 80 o nyrsys ardal newydd.

 

 

Cyllid ar gyfer Gweddnewid y GIG

 

Mae Ffyniant i Bawb yn cyflwyno ein huchelgais i gynnal gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel, cefnogi a hybu iechyd a llesiant da i unigolion, teuluoedd a chymunedau a chymryd camau i newid ein ffocws o drin i atal.  Rwy’n benderfynol o ddefnyddio’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn GIG Cymru i gefnogi’r uchelgais hon ac ysgogi newidiadau i’n gwasanaethau iechyd a gofal.

 

Mae’r dystiolaeth yn adroddiadau Ymddiriedolaeth Nuffield a’r Sefydliad Iechyd yn cyfeirio at yr angen am fuddsoddiad blynyddol parhaus yn y GIG er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn costau a’r galw am wasanaethau.  Yn 2017-18 fe wnes i gynyddu dyraniadau’r GIG a llifau cyllid eraill y GIG gyda chynnydd cyffredinol o 2%, sy’n gyfwerth â thua £110 miliwn yn gyffredinol, er mwyn ymateb i gynnydd mewn costau.  Byddaf yn cynllunio i wneud cynnydd tebyg i’r cyllid yn 2018-19 o’r £230 miliwn o gyllid sydd wedi’i ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft hon.

 

Fy uchelgais yw defnyddio balans y buddsoddiad ychwanegol, ar gyfer dyrannu cyllid ar gyfer cynnydd mewn costau, er mwyn dangos ein hymrwymiad i weddnewid gwasanaethau a chynnal a gwella perfformiad.  Rwyf hefyd yn benderfynol o gymell sefydliadau i gyflawni a chynnal y statws o gael cynllun tymor canolig cymeradwy, drwy roi mwy o hyblygrwydd i’r sefydliadau hyn o ran sut y maent yn defnyddio’r cyllid ychwanegol i ysgogi newidiadau ar lefel leol.

 

Bydd y graddau y gallwn gyflawni’r uchelgais hon yn dibynnu’n fawr ar ein cynnydd wrth fynd i’r afael â diffygion gweithredol yn y byrddau iechyd a’u hatal rhag gwaethygu.  Yn 2017-18, rwyf wedi gorfod atal cyfran sylweddol o’r £240 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol ar sail anghylchol er mwyn gwrthbwyso’r diffygion yn y sefydliadau hyn.  Mae’r ymyrraeth sydd wedi’i thargedu yn y sefydliadau gan fy swyddogion yn cael effaith o ran sefydlogi’r sefyllfa, ond bydd angen sicrwydd arnaf bod gwelliannau pellach yn cael eu cyflawni a’u cynnal yn ystod ail hanner 2017-18 cyn imi wneud unrhyw benderfyniadau i ymrwymo cyllid gweddnewid ychwanegol ar sail reolaidd yn 2018-19 a thu hwnt.

 

Wrth ddefnyddio cyllid er mwyn ysgogi newidiadau, ni ddylem ganolbwyntio’n unig ar fuddsoddiad newydd, ond hefyd sicrhau ein bod yn gweithredu i ailgyfeirio gwariant presennol tuag at fodelau gofal newydd.

 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos mai gofal sylfaenol yw elfen graidd system iechyd gynaliadwy.  Mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn disgrifio sut y byddwn yn cyflawni system iechyd gynaliadwy ac effeithiol drwy fodel iechyd a llesiant mwy cymdeithasol.  Mae hyn yn ymateb i anghenion pobl drwy ddenu’r holl adnoddau sydd ar gael o ran cyllid, y gweithlu ac adnoddau eraill, nid dim ond adnoddau GIG Cymru, gan wneud defnydd doeth ac arloesol ohonynt a helpu pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.

 

Ochr yn ochr â’r buddsoddiad ychwanegol rydym yn ei wneud yn 2018-19, mae’r gyllideb hon yn cefnogi’r newid a’r gwelliant hwn drwy gynnal nifer o ddyraniadau cyllid sydd eisoes wedi’u targedu, gan gynnwys cynnal y gronfa gofal sylfaenol, y gronfa gofal integredig a chyllid ar gyfer cynlluniau cyflawni cenedlaethol.  Dyrannwyd £10 miliwn o’r gronfa gofal sylfaenol ar gyfer y clystyrau gofal sylfaenol er mwyn penderfynu sut i’w fuddsoddi ac mae’n llwyddo manteision cydweithio ar lefel leol iawn er mwyn ysgogi newidiadau.

 

Mae ein Cyllideb yn cynnwys cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer byrddau iechyd ar gyfer y contract gwasanaeth gyda meddygon teulu, fferyllwyr cymunedol, deintyddion ac optometryddion.  Rydym yn parhau i wneud gwaith ymchwil gyda chyrff proffesiynol perthnasol i weld sut y gall y fframweithiau contractau a drafodwyd yn genedlaethol alluogi ein nod o weddnewid gofal a chymorth a diwallu anghenion pobl mor agos â phosibl i’w cartrefi.

 

Rydym hefyd yn bwriadu cynyddu gwasanaethau triniaeth rheng flaen ar gamddefnyddio sylweddau drwy gynyddu’r cyllid o £0.920 miliwn sydd wedi’i glustnodi yn 2018-19, i fuddsoddiad blynyddol o fwy na £18 miliwn.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r tensiwn posibl rhwng pwysau costau dyddiol a gwariant ataliol ar y gwasanaethau cymdeithasol.  Bwriad ein diwygiadau mawr i ddeddfwriaeth a gwasanaethau yw galluogi awdurdodau lleol a’r sector yn ehangach i ymateb i’r ddemograffeg ac i’r heriau eraill drwy fabwysiadu dull tymor hwy sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar a chyflawni canlyniadau llesiant personol wrth wella llesiant pobl yng Nghymru.

 

Rydym wedi targedu cyllid o £1.3 miliwn yn y blynyddoedd 2013-14 a 2014-15 gan gynyddu i £3.0 miliwn yn 2015-16 a 2016-17, drwy Grant Cyflawni’r Agenda Weddnewid 2013-14 i 2016-17 (sydd wedi’i drosglwyddo yn awr i’r grant cymorth refeniw o 2017-18), gan gydnabod costau gweddnewid cynllunio ar gyfer ac yna gweithredu’r newidiadau sydd eu hangen i lywio gwelliannau wrth ddarparu gofal cymdeithasol yn systematig yng Nghymru o dan nawdd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Mae’r trefniadau gwerthuso ar gyfer y Ddeddf yn cael eu datblygu ar y cyd gyda rhanddeiliaid yn awr.  Fodd bynnag, y dangosyddion presennol yw, er bod y gwaith cyflwyno yn datblygu ar gyfraddau gwahanol mewn ardaloedd gwahanol, mae’r defnydd o gyllid grant ar gyfer datblygu blaenoriaethau cenedlaethol wedi’i groesawu fel dull o gyflymu’r broses weithredu ac annog arfer ehangach o fabwysiadu arfer gorau ar hyd a lled Cymru.

 

Rydym hefyd wedi sefydlu, yn ychwanegol at hyn, £55 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol a ddyrannwyd i lywodraeth leol o 2017-18.  Wrth gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau rheng flaen, mynd i’r afael ag effaith y cyflog byw cenedlaethol a thargedu gweithredoedd ar y tri maes blaenoriaeth; y gweithlu gofal cymdeithasol, plant sy’n derbyn gofal a gofalwyr, bwriedir i’r cyllid hwn alluogi llywodraeth leol a’i phartneriaid ddatblygu eu hagendâu atal ac ymyrraeth gynnar.

 

Gwaith partneriaeth a byrddau partneriaeth rhanbarthol

 

Ar 10 Hydref cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar i’r Cynulliad, yn pwysleisio pwysigrwydd integreiddio a gweithio mewn partneriaeth er budd y gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan mai’r ffordd orau o godi safonau yw drwy bartneriaid yn cydweithio.  Mae’r Ddeddf yn galluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i ysgogi integreiddiad effeithiol iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Mae’r byrddau hyn wedi’u sefydlu’n gadarn ac maent yn gwella effeithiolrwydd y dulliau cyflawni gwasanaethau.

 

Sefydlwyd saith bwrdd, ar ôl-troed ardal y byrddau iechyd, sy’n uno’r gwasanaethau iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid eraill.  Eu diben yw gwella canlyniadau llesiant a gwneud y defnydd gorau o adnoddau er mwyn cefnogi cynaliadwyedd.

 

Mae’n ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sefydlu cyllidebau cyfun, o Ebrill 2018, ar gyfer darparu llety i oedolion mewn cartrefi gofal.  Bydd y cyllidebau cyfun hyn yn cefnogi prosesau comisiynu integredig, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ganolbwyntio ar ansawdd gwell yn ogystal â sicrhau gwerth gwell am arian.

 

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd yn mynnu bod byrddau partneriaeth rhanbarthol yn defnyddio dull integredig wrth gynllunio a chyflawni gwasanaethau.  Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y byrddau rhanbarthol asesiadau poblogaeth, sy’n ofyniad yn Neddf 2014.  Mae’r rhain yn darparu tystiolaeth glir a phenodol o’r ystod lawn o anghenion gofal a chymorth.  Mae byrddau rhanbarthol yn cynhyrchu cynlluniau ardal yn awr mewn ymateb i’r asesiadau hyn erbyn Ebrill 2018 a fydd yn pennu eu hagenda ar gyfer cyflawni gwasanaethau mewn dull integredig.

 

Y Gronfa Gofal Integredig (ICF)

 

Sefydlwyd y Gronfa Gofal Integredig sydd wedi’i hailfrandio yn 2014-15 i gynorthwyo pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth, osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty ac atal oedi cyn eu rhyddhau o’r ysbyty.  Mae hefyd yn ceisio ysgogi gwaith partneriaeth a chyflawni gwasanaethau integredig ar draws y meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a’r trydydd sector.  Cafodd y gronfa ei ehangu yn 2016-17 i gefnogi datblygiad gwasanaethau gofal a chymorth integredig ar gyfer grwpiau eraill o bobl.

 

Fel un o ddulliau cyflawni allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), o 2017-18, mae amcanion y Gronfa Gofal Integredig wedi’u cysylltu i feysydd blaenoriaeth integreiddio'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol:

 

·         Pobl hŷn gydag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia;

·         Pobl ag anableddau dysgu;

·         Plant gydag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch;

·         (am y tro cyntaf) Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

 

Mae gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol swyddogaeth oruchwylio ac mae hyn yn sicrhau’r defnydd effeithiol a chyflawniad y Gronfa Gofal Integredig.

 

Gyda’r £130 miliwn o gyllid a ddarparwyd drwy’r Gronfa hyd yma a’r £60 miliwn yn 2017-18, mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi mynediad gwell i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn i fwy o bobl eiddil ac oedrannus dderbyn gofal yn neu’n agos i’w cartref.

 

Mae cyllid y Gronfa Gofal Integredig yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ystod eang o fodelau arloesol o weithio integredig.  Mae’r rhain wedi creu mwy o gapasiti yn y system ofal yn ogystal â gwella cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau mewn rhanbarthau.

 

Mae’r dystiolaeth sy’n dod i law yn dangos bod cyllid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl, yn ogystal â lleihau’r pwysau ar wasanaethau hollbwysig y GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol.  Cyflawnwyd hyn drwy ddatblygu diwylliant o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai, ochr yn ochr â phartneriaid o’r trydydd sector a’r sector annibynnol.

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gadw’r gronfa bwysig hon.

 

Unrhyw gyllideb sydd wedi’i dyrannu ar gyfer technoleg a seilwaith er mwyn cefnogi ansawdd ac effeithlonrwydd

 

Mae buddsoddi mewn TGCh a thechnolegau digidol yn cefnogi gweddnewid y gwasanaeth yn ehangach, ac yn galluogi defnydd mwy effeithiol o adnoddau ar draws y gwasanaeth; a grymuso cleifion a gweithwyr proffesiynol drwy ddarparu gwybodaeth unrhyw le unrhyw amser.

 

Drwy ein buddsoddiad gwerth £55 miliwn yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, mae gennym seilwaith cenedlaethol sefydledig, lle mae byrddau iechyd yn defnyddio systemau clinigol cyffredin megis Cynllun Gweinyddu Cleifion Cymru a Phorth Clinigol Cymru.  Mae buddsoddiad wedi gwella’r seilwaith TG, mae hen offer wedi’u hadnewyddu ac mae systemau wedi’u hatgyfnerthu rhag ymosodiadau seibr.

 

Porth Clinigol Cymru yw’r prif bwynt mynediad at wybodaeth i glinigwyr ysbytai.  Mae’n crynhoi’r wybodaeth allweddol o’r systemau niferus sy’n cael eu defnyddio gan ysbytai, ac yn galluogi clinigwr i edrych ar gofnod claf mewn un lle a defnyddio system gyffredin i gyflawni tasgau amrywiol e.e. gwneud cais am brofion, adolygu canlyniadau neu greu llythyr cyngor wrth ryddhau cleifion.

 

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys Fy Iechyd Ar-lein lle gall meddygon teulu gynnig ceisiadau i drefnu apwyntiadau a phresgripsiynau amlroddadwy ar-lein.

 

Mae cofnod Meddygon Teulu Cymru ar gael i feddygon teulu mewn lleoliadau y tu allan i oriau yn ogystal â chlinigwyr a fferyllwyr mewn lleoliadau gofal eilaidd.  Defnyddir Dewis Fferyllfa gan 51% o fferyllwyr cymunedol.  Mae’n cefnogi’r gwaith o gyflawni’r gwasanaethau mân anhwylderau ac adolygu meddyginiaeth wrth ryddhau cleifion.  Gall fferyllwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth Dewis Fferyllfa edrych ar gofnod meddygon teulu cleifion a chyflenwi meddyginiaethau sy’n cael eu rhagnodi i gleifion mewn argyfwng.

 

Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.  Mae’n galluogi i staff sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ddefnyddio un system a chofnod electronig o ofal a rennir.

 

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi’i neilltuo ar gyfer arloesedd drwy’r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yn lleihau o £4 miliwn yn 2018-19.  Cafodd y Rhaglen ei datblygu a’i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel grant cystadleuol, gyda chyllid yn cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau carlam penodol.  Mae hyn yn wahanol i’r trefniadau cyllido cyfunol ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Ystyrir bod y Rhaglen a’i hymagwedd yn brawf o gysyniad neu’n ddangosydd ac mae wedi’i hadolygu’n allanol, gan dderbyn cymeradwyaeth ac argymhellion cadarnhaol.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n credu y dylai’r dull hwn gael ei fabwysiadu’n fwy eang ar draws GIG Cymru.  Byddwn yn rhannu’r model a’r dysgu hwn gyda byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio i fabwysiadu technoleg ac arloesedd o’u hadnoddau eu hunain, fel rhan o’u busnes craidd.  Byddwn yn defnyddio Cynllun Tymor Canolig Integredig i gytuno gyda byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd sut y byddant yn gwneud hynny, gan gynnwys y lefel o adnoddau y byddant yn ei hymrwymo’n unol a/neu ar y cyd i’r maes pwysig hwn.  Byddwn yn monitro gweithgarwch a chanlyniadau drwy ein dull goruchwylio ac adrodd rheolaidd.

 

Safbwyntiau ar sut y gall Llywodraeth Cymru gydbwyso’r angen am wariant ataliol a mynd i’r afael yn effeithiol â’r pwysau o ran costau dyddiol.

 

Mae’r pwysau costau dyddiol sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru, fel yn achos pob system gofal iechyd fodern arall, yn heriol iawn.  Rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru yn newid ac yn cynyddu o 3.1 miliwn i 3.3 miliwn erbyn tua 2039,  yn bennaf wrth i bobl fewnfudo o Loegr ac i raddau llai o’r tu allan i’r DU.  O fewn y cynnydd cyffredinol hwn, rhagwelir y bydd y gyfran o bobl dros 65 oed yn cynyddu 20% o’r boblogaeth i dros chwarter.  Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio, a’r patrymau a baich clefydau sy’n cyd-fynd â hynny, bydd angen, ac rydym wedi dod i ddisgwyl, mynediad amserol at driniaeth a chymorth o ansawdd uchel.  Bydd angen triniaeth a chymorth ar gyfran sylweddol iawn o’r boblogaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol: bydd nifer o unigolion sydd wedi cymryd cyfrifoldeb llawn dros eu hiechyd eu hunain ac sydd wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau amgylchiadau ehangach sy’n ffafriol i iechyd da, yn parhau i allu cael triniaeth gostus a chymhleth.

 

Nid yw bob amser yn briodol tybio y bydd dulliau ataliol yn lleihau costau darpariaeth gofal iechyd.  Bu dadansoddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Nuffield[1] yn ystyried mentrau amrywiol sydd wedi’u cynnwys o dan yr ambarél o symud gofal o ysbytai.  O’r 27 o gynlluniau cyffredin, canfuwyd mai dim ond saith ohonynt oedd yn llwyddo i arbed costau a bod chwech ohonynt wedi cynyddu costau.  Mae dau ffactor amlwg yma: a) gall ehangu gofal y tu allan i ysbytai (gan ragdybio hyd yn oed y gellir denu’r gweithlu mwy hwn ac yna talu amdano) ddatgelu anghenion heb ei gyflawni’n flaenorol neu ddarparu gwasanaethau ychwanegol y gall cleifion wneud defnydd effeithiol ohonynt yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes yn bodoli, a ii) mae tueddiad i ragdybio y gellir cofnodi achosion o atal rhywun rhag cael ei dderbyn i’r ysbyty a’r holl gostau cysylltiedig fel arbedion, ond mewn gwirionedd gall hyn fod yn gymhleth iawn.

 

Er gwaethaf yr heriau, mae Llywodraeth Cymru’n cymryd llawer o gamau er mwyn sicrhau’r cydbwysedd gorau posibl o ran costau:

 

·         Bod yn glir ynglŷn â’n disgwyliadau o Fyrddau Iechyd i ganolbwyntio ar atal – nid yn unig drwy ddeddfwriaeth megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ond hefyd wrth bennu blaenoriaethau atal drwy’r fframwaith cynllunio a thrwy drafodaethau ar berfformiad ac atebolrwydd;

·         Mae yna adran o’r ddogfen hon sy’n categoreiddio gwariant ar atal o fewn y gyllideb.  Mae gwella tryloywder o ran costau o fewn y gyllideb yn un ffordd o gefnogi mwy o symudiad at atal;

·         Cefnogi Byrddau Iechyd a’u partneriaid i fuddsoddi mewn dulliau atal drwy ddarparu tystiolaeth a chyngor ar ymyriadau gydag elw ar fuddsoddiadau.  Er enghraifft cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddogfen y llynedd: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru[2]  sy’n darparu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio wrth atal a manylion ynglŷn ag elw ar fuddsoddiad.

·         Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud nifer o fuddsoddiadau uniongyrchol, er enghraifft drwy gyflwyno rhaglenni sgrinio a brechu.

 

Perfformiad ariannol Byrddau Iechyd Lleol ac anghydraddoldebau iechyd

 

Diweddariad ar y pedwar bwrdd iechyd a fethodd â chyflawni eu dyletswyddau a’u prosesau ariannol ar gyfer monitro cynnydd:

 

Mae’r pedwar bwrdd iechyd (Byrddau Iechyd Athrofaol Abertawe Bro Morgannwg, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda) a fethodd â chyflawni eu dyletswyddau ariannol yn cael eu rheoli yn awr drwy’r Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, naill ai fel rhan o Fesurau Arbennig neu Ymyrraeth wedi’i Thargedu.  Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd misol Mesurau Arbennig neu Ymyrraeth wedi’i Thargedu gydag uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, er mwyn cytuno ar gymorth, camau gweithredu a dulliau cyflawni.

I’r tri sefydliad sy’n destun trefniadau Ymyrraeth wedi’i Thargedu, cafodd Adolygiadau Llywodraethu Ariannol annibynnol eu comisiynu, eu cynhyrchu a’u cyflwyno. Bu pob Bwrdd yn ystyried yr argymhellion a chytunwyd ar eu camau gweithredu yn eu cyfarfodydd Bwrdd unigol ym mis Medi.  Bydd y camau gweithredu hyn yn cael eu monitro drwy’r cyfarfodydd misol Ymyrraeth wedi’i Thargedu.

Yng ngoleuni'r perfformiad ariannol parhaus ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, comisiynwyd Adolygiad Llywodraethu Ariannol arall gyda’r bwriad o’i gwblhau erbyn canol Tachwedd.

 

Manylion pryd y bydd adolygiad Llywodraeth Cymru o’r fformiwla ariannu ar gyfer byrddau iechyd er mwyn sicrhau tegwch ar hyd a lled Cymru yn cael ei gwblhau

 

Nod yr adolygiad dyrannu adnoddau Cam 2 yw datblygu fformiwla ariannu erbyn haf 2018 a fydd yn llywio dosbarthiad unrhyw ddyraniad ychwanegol yn ôl disgresiwn ar gyfer gwasanaethau iechyd ysbytai a chymunedol yn 2018-19.  Cydnabyddir y bydd yr ymarferiad technegol hwn yn un cymhleth a fydd yn gorfod adlewyrchu ar y mesurau anghenion mwyaf priodol ac unrhyw ffactorau unigryw cydnabyddedig.  Yn ogystal, bydd y fformiwla newydd wedi’i chynllunio i fod yn agored, a bydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda data cyfredol a dibynadwy ar y boblogaeth ac anghenion.

 

 

Ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar weithredu Deddf Cyllid y GIG.

 

Croesawodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau’r adroddiad a darparodd yr ymateb canlynol i’r ddau argymhelliad ynddo.

 

Argymhelliad 1

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

 

 

a) nodi’n gliriach yn ei chanllawiau sut y dylai cyrff y GIG sydd â diffyg, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, adfer eu sefyllfa ariannol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd mewn blynyddoedd i ddod; a

b) gwella ei ffurflenni monitro drwy gynnwys y sefyllfa yn erbyn y cyfnodau treigl o dair blynedd, nid dim ond y darlun blynyddol.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd yn Rhannol

 

Nid yw Llywodraeth Cymru’n derbyn bod angen arweiniad ychwanegol ar gyrff y GIG gan Lywodraeth Cymru ar y camau gweithredu sydd eu hangen i adennill diffyg er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn y dyfodol.  Nodwyd gweithrediad y ddyletswydd ym Memorandwm Esboniadol y Ddeddf, ac mae wedi’i nodi hefyd yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru (2016) 054 – Dyletswyddau Ariannol Statudol Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr angen i sicrhau bod holl aelodau newydd byrddau yn deall dyletswyddau’r sefydliad, ac y bydd y gofyniad hwn yn cael ei drin a’i drafod yn Rhaglen Sefydlu’r Aelodau Annibynnol.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn yr argymhelliad bod angen i’n proses fonitro reolaidd gynnwys safbwynt tair blynedd yn ogystal â’r sefyllfa flynyddol i’r sefydliadau hynny sy’n gweithio i gynlluniau tair blynedd cymeradwy.  Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr ychwanegiadau y mae angen inni eu gwneud i’r broses fonitro, i gynnwys y safbwynt hwn.  Bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn 31 Hydref 2017.

 

Argymhelliad 2

 

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gwblhau’r adolygiad o’i fformiwla gyllido ar gyfer byrddau iechyd yn fuan er mwyn sicrhau bod amrywiadau mewn lefelau cyllido yn adlewyrchu gwahaniaethau yn anghenion iechyd poblogaethau a phenderfynyddion eraill costau gofal iechyd yn briodol.

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru:

 

Derbyniwyd

 

Cwblhawyd Cam 1 yr adolygiad o’r dyraniad adnoddau o fewn elfen Trefn Gyllidol Law yn Llaw at Iechyd.  Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu datblygu Cam 2 maes o law.

 

Pwysau’r gweithlu

 

Manylion pwysau penodol a phrinder staff a chynlluniau ariannol pellach i fynd i’r afael â hyn:

 

Nid dim ond GIG Cymru sy’n profi anawsterau recriwtio i rai swyddi.  Mae yna heriau ar hyd a lled y DU yn ogystal â phrinderau rhyngwladol ar gyfer rhai mathau o swyddi.

 

Mewn marchnad gystadleuol o’r fath ac er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i gynnal ymgyrch farchnata a recriwtio genedlaethol a rhyngwladol, sydd wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r proffesiynau, ysgolion meddygol prifysgolion, colegau brenhinol, cyflogwyr y GIG a Deoniaeth Cymru, i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon (gan gynnwys meddygon teulu), nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a’u teuluoedd, i hyfforddi, gweithio a byw.  Roedd y cam cyntaf, a lansiwyd yn Hydref 2016, wedi’i ganolbwyntio’n bennaf ar feddygon (gan gynnwys meddygon teulu) a chafodd ei ail-lansio'r mis hwn; roedd yr ail gam a lansiwyd ym Mai 2017 yn canolbwyntio ar nyrsys ac roedd y trydydd a’r pedwerydd cam, a fydd yn canolbwyntio ar fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yn cael eu lansio ym mis Mawrth 2018.

 

Bwriedir i’r ymgyrchoedd hyn gefnogi ymgyrchoedd recriwtio lleol byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd.  Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru, corff wedi ei noddi gan Lywodraeth Cymru, a ddaeth i rym o 1 Ebrill 2017, gyfrifoldeb i lywio gwelliannau i wasanaethau ac ysgogi gofal o ansawdd uchel, yn ogystal â chodi proffil y gweithlu a chefnogi ei broffesiynoldeb.  Mae’n datblygu amrediad o gamau gweithredu er mwyn cyflawni’r cyfrifoldebau hyn, gan gynnwys llwybrau gyrfa, adolygu graddfeydd gwaith cymdeithasol a datblygu cronfa ddata genedlaethol er mwyn nodi tueddiadau yn y dyfodol o ran y galw am ofal cymdeithasol.  Bydd hyn yn helpu i godi proffil y sector a mynd i’r afael â’r anawsterau recriwtio a chadw presennol, a chyfrannu at gynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol yn y tymor hwy.

 

Manylion cynlluniau ar gyfer llwybrau sgiliau a gyrfa newydd i staff iechyd a gofal cymdeithasol ac unrhyw ddyraniadau cysylltiedig (argymhellwyd hyn yn adroddiad yr Adolygiad Seneddol Interim a oedd yn datgan bod angen cynllunio’r rhain ar raddfa fawr yn ddi-oed);

 

Yn y GIG yng Nghymru, y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd sy’n gyfrifol am ddulliau cadarn ar gyfer cynllunio’r gweithlu, am mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod eu sefydliadau wedi’u staffio’n briodol i ddarparu’r gwasanaethau sy’n cyd-fynd ag anghenion eu poblogaeth leol – yn awr ac yn y dyfodol.

 

Er mwyn cyflawni’r heriau sy’n wynebu’r system iechyd yn awr ac yn y dyfodol, mae’n bwysig sicrhau bod gweithlu’r dyfodol yn ddigon hyblyg i alluogi i newidiadau i fodelau gwasanaeth gael eu cefnogi drwy raglenni addysg a hyfforddiant addasol.  Mae'r un mor bwysig galluogi cymaint o unigolion â phosibl i geisio a chyflawni gyrfa yn y system iechyd.  Bydd hyn yn cynnwys natur rhaglenni a llwybrau mynediad.  Cyflwynwyd rhaglenni rhan amser newydd ar gyfer addysg nyrsys yn 2017, ac er mai nifer gyfyngedig ohonynt sydd ar gale ar hyn o bryd, y bwriad yw datblygu hyn yn y dyfodol.  Mae’r fframwaith gweithwyr cymorth gofal iechyd yn parhau i esblygu a darparu mwy o lwybrau gyrfa hyblyg i unigolion.

 

Yn ogystal, mae rhaglenni arfer uwch a sgiliau estynedig ar waith, gyda dyraniadau penodol ar gyfer unigolion ymarfer meddygol i feithrin sgiliau ychwanegol.

 

 

Unrhyw waith cynllunio / asesu a wnaed ar anghenion ariannu yn y dyfodol ar ôl Brexit, er enghraifft o ystyried newidiadau posibl i gostau staff asiantaeth.

 

Ni allwn wneud unrhyw amcanestyniadau ariannol ar effaith Brexit ar gostau staffio nes y byddwn wedi gweld canlyniad y negodiadau a beth mai’r rhain yn ei olygu i’r GIG o’r UE ac i’r rhai o rannau eraill y byd.  Mae Llywodraeth Cymru yn sicr ein bod eisiau galluogi’r holl aelodau o staff ymroddedig hynny sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru i aros yma, er mwyn cyfrannu at fywyd Cymru a rhedeg ein GIG.

 

Rydym yn gweithio gyda’r GIG i barhau i ystyried effaith cynigion Brexit wrth iddynt ddatblygu ac mae cyflogwyr yn gweithio yng nghynghrair ehangach Cavendish y DU er mwyn asesu effaith a dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn y materion hyn.

 

Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol

 

Dyraniadau ariannol i ysgogi integreiddio, e.e. datblygu gweithwyr proffesiynol iechyd/gofal cymdeithasol sy’n gallu gweithio ar draws ffiniau gwasanaethau.

 

Mae un o brif egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn canolbwyntio ar bartneriaeth, ac mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn bosibl i wasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol gael eu darparu mewn dull mwy cydgysylltiedig.  Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaethau’n cydweithio’n agosach, a bydd mathau newydd o wasanaethau a swyddi yn cael eu datblygu sy’n gweithio’n hyblyg ar draws sefydliadau.

 

Datblygwyd fframwaith dysgu a datblygu ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol ym maes Gofal Cymdeithasol, i ddarparu arweiniad i Therapyddion Galwedigaethol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Bydd yn hwyluso datblygiad proffesiynol, clinigol ac yn rheoli datblygiad Therapyddion Galwedigaethol, er mwyn sicrhau y gwneir y defnydd gorau o sgiliau a bod y gwasanaethau yn effeithiol.  Bydd yn cynorthwyo i gyflawni anghenion gyrfa Therapyddion Galwedigaethol ac yn helpu i lywio gyrfaoedd Therapi Galwedigaethol yng Nghymru yn y dyfodol, er mwyn gwneud y gorau o effaith y gweithlu Therapi Galwedigaethol wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Mae’r fframwaith yn alinio gyda fframwaith newydd y GIG ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, “Modernising Allied Health Professional Careers in Wales”, y fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a’r fframwaith gyrfa cyffredinol sy’n cael ei ddatblygu gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol er mwyn hwyluso9 symudiad tuag at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mwy integredig.

 

Yn yr un modd, datblygwyd Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gymru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd sydd wedi’u cyflogi mewn lleoliadau cymunedol ar gyfer oedolion a phlant a phobl ifanc.  Mae’n darparu strwythur ar gyfer sefydlu ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd ddangos tystiolaeth ohonynt yn ystod chwe mis cyntaf eu cyflogaeth.  Mae’r fframwaith sefydlu yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd ddi-dor, effeithiol ac effeithlon er mwyn hybu llesiant a chyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl yng Nghymru.

 

Chwaraeon Cymru

 

Y cyllid a ddyrannwyd i Chwaraeon Cymru, dulliau o fonitro’r gwariant ac a yw’r dyraniadau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i gyflawni canlyniadau i bobl yng Nghymru.

 

Mae gan Chwaraeon Cymru gylch gwaith deuol o gefnogi chwaraeon elitaidd a chwaraeon perfformiad, gan ddefnyddio arian y Loteri, yn ogystal â darparu chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden corfforol i’r boblogaeth, gan ddefnyddio cymysgedd o gyllid gan y Loteri a Llywodraeth Cymru.

 

Profwyd bod gweithgarwch corfforol yn chwarae rôl arwyddocaol mewn iechyd ac atal salwch, a gall gyfrannu at lesiant meddyliol a lleihau arwahanrwydd.  Mae gan chwaraeon rôl ystyrlon wrth gyfrannu at lefelau gweithgarwch corfforol.  Dyma yw’r rheswm pam y cafodd Chwaraeon ac Iechyd y Cyhoedd eu huno yn y Llywodraeth hon.

 

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn fwy tebygol o ddilyn y canllawiau gweithgaredd corfforol. Ac mae pobl s y’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol hefyd yn llai tebygl o ysmygu, yn fwy tebygol o fwyta pum dogn o ffrwythau llysiau y dydd ac yn llai tebygol o fod yn ordew.

 

Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am geisio cynyddu nifer y bobl sy’n cyflawni canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer gweithgarwch ac mae ganddynt nifer o raglenni sefydledig ar waith, sy’n cael eu darparu gan amrediad o bartneriaid sefydledig.  Yn ogystal, mae eu rhaglen GalwAmWeithredu wedi gweithio gyda phartneriaid newydd er mwyn targedu cohortau penodol sy’n cael eu tangynrychioli, naill ai oherwydd eu rhyw, ethnigrwydd neu eu hardal o amddifadedd.

 

Comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygiad annibynnol yn 2017 o Chwaraeon Cymru ac yn dilyn hynny gwnaeth ddatganiad polisi yn datgan ei blaenoriaethau yn glir ar gyfer y sefydliad wrth gyflawni canlyniadau gweithgarwch corfforol.  Mae Chwaraeon Cymru yn cynnal gwerthusiadau yn awr o’i raglenni hirsefydledig er mwyn herio canlyniadau cyflawni ac ymateb i’r blaenoriaethau hyn.  Mae’r llythyr cylch gwaith presennol yn cyfeirio Chwaraeon Cymru i ddatblygu fframwaith canlyniadau a mesurau newydd a fydd yn arddangos ei gyfraniad i Ffyniant i Bawb.

 

Yn ogystal, mae’r Gweinidog yn mynnu bod Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i gyflawni’r ymrwymiad i gynyddu’n arwyddocaol y lefelau o weithgarwch corfforol sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu Iach a Gweithgarwch sy’n cael ei ddatblygu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

 

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol


 

Atodiad A

Sylwadau ar bob un o’r Camau Gweithredu yn y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, gan gynnwys dadansoddiad ac esboniad o’r newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a’r Gyllideb Atodol Gyntaf (Mehefin 2017).

 

Ail-alinio gyda’r MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

O fewn y MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, rydym wedi adolygu strwythur cyllideb y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) a gwneud nifer o newidiadau, a oedd yn golygu gwneud nifer o drosglwyddiadau rhwng Llinellau Gwariant yn y Gyllideb.  Nodir manylion y rhain isod.

 

Yn benodol, nodwch ein bod wedi gwneud y newidiadau canlynol:

 

 

 

 

 

Dyraniadau Craidd BEL 0020 y GIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2018-19

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2019-20

£’000

6,353,668

6,344,788

174,530

6,519,318

220,000

6,739,318

 

Esboniad o’r Newidiadau ar gyfer Cyflawni’r BEL Dyraniadau Craidd y GIG.

 

2018-19

Y newid rhwng Cyllideb Atodol Gyntaf a Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

 

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

 

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

BEL 0030 Dyraniadau Uniongyrchol Eraill y GIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2019-20 ar gyfer

£’000

0

0

251,935

251,935

0

251,935

 

Esboniad o’r Newidiadau ar gyfer Cyflawni BEL Dyraniadau Craidd y GIG 2018-19

Y newid rhwng Cyllideb Atodol Gyntaf a Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

 

Y Newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0250 Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

88,880

88,880

-464

88,416

0

88,416

 

Esboniad o Newidiadau i BEL Iechyd y Cyhoedd

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin Diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0180 Gofal Sylfaenol y GIG – BEL CAEËDIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2019-20

£’000

46,906

46,906

-46,906

0

0

0

 

Esboniad o’r Newidiadau i BEL Gofal Sylfaenol y GIG

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd 2019-20 (Cyllideb ddrafft)

 

Bel 0257 Cyllidebau Gwybodaeth Canolog - BEL CAEËDIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

28,369

28,369

28,369

0

0

0

 

Esboniad o’r Newidiadau i gyllidebau Gwybodaeth Canolog BEL

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau newydd 2018-19 (Cyllideb Ddrafft)

·         (£28,369) i Ddyraniadau Uniongyrchol Eraill y GIG (BEL 0030) ar gyfer ymarfer ail-alinio Tablau y BEL, Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Dyraniad Uniongyrchol Arall y GIG (NWIS))

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0265 Ansawdd a Chyfranogiad Diogelwch Cleifion – BEL CAEËDIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

2,588

2,588

-2,588

0

0

0

 

Esboniad o’r Newidiadau i BEL Gofal Sylfaenol y GIG

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0275 Clefydau Cronig – BEL CAEEDIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

72

72

-72

0

0

0

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Clefydau Cronig

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd 2018-19 (Cyllideb Ddrafft)

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0682 Cyllidebau Iechyd Eraill - Gwariant

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

95,674

104,723

-77,368

27,355

-13,247

14,108

 

Esboniad o’r Newidiadau i Gyllidebau Iechyd Eraill – BEL Gwariant

 

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

 

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

 

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0682 Cyllidebau Iechyd Eraill - Incwm

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

0

0

-53,000

-53,000

 

-53,000

 

Esboniad o Newidiadau i Gyllidebau Iechyd Eraill – BEL Incwm

 

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

 

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

 

 

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0140 Addysg a Hyfforddiant

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

194,051

187,851

8,985

196,836

 

196,836

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Addysg a Hyfforddiant

 

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18.

 

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

 

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0185 Cyllidebau Canolog Datblygu’r Gweithlu

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

2506

2506

-50

2,456

0

2,456

 

 

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Cyllidebau Canolog Datblygu’r Gweithlu

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0270 Iechyd Meddwl

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

3,255

2,255

1,024

3,279

0

3,279

 

Esboniad o Newidiadau i’r BEL Iechyd Meddwl

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

·         £24,000 o Gyllideb Arall y GIG – Gwariant (BEL 0682) ar gyfer ymarfer ailalinio tablau BEL Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (trosglwyddo’r gyllideb iechyd meddwl)

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0286 Cymorth Hosbis – BEL CAEËDIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

2,256

1,256

-1,256

0

0

0

 

Esboniad o’r newid i BEL Cymorth Hosbis

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaealodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

·         (£1,116) i Ddyraniadau Uniongyrchol Eraill y GIG (BEL 0030)  ar gyfer ymarfer ailalinio tablau BEL Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (dyraniad uniongyrchol arall y GIG wedi’i gyhoeddi)

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 1682 Cronfa Cynllun Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau 

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

26,975

26,975

-500

26,475

-1,980

24,495

 

Esboniad o’r Newidiadau i BEL Cyllid y Cynllun Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwalodlin diwygiedig ar gyfer r2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0231 Gwella Iechyd a Gweithio’n Iach

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

3,903

3,903

9,641

13,544

-156

13,388

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Gwella Iechyd a Gweithio’n Iach

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0232 Diogelwch Iechyd a Brechu wedi’u Targedu

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

3,987

3,987

4,597

8,584

0

8,584

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Diogelwch Iechyd a Brechu wedi’u Targedu

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0400 Bwyd a Lles – BEL CAEËDIG

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

7,500

7,500

-7,500

0

0

0

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Bwyd a Lles

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0230 Cynllunio at Argyfwng Iechyd

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

6,712

6,712

-653

6,059

-34

6,025

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Cynllunio at Argyfwng Iechyd

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0260 Ymchwil a Datblygu

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

43,365

43,365

-860

42,505

-430

42,075

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Ymchwil a Datblygu

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0460 Diogelu ac Eiriolaeth

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

985

985

280

1,265

0

1,265

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Diogelu ac Eiriolaeth

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0661 Gofalwyr Pobl Hŷn a Phobl ag Anableddau

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

29,197

29,197

-27,000

2,197

0

2,197

 

Esboniad o’r Newid i’r BEL Gofalwyr Pobl Hŷn a Phobl ag Anableddau

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Y newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau newydd (Cyllideb Ddrafft) 2019-20

 

BEL 0920 Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

 

Cyllideb atodol gyntaf 2017-18

£’000

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2018-19

£’000

Newid £’000

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft

2019-20

£’000

42,132

12,132

-817

11,315

0

11,315

 

Esboniad o’r Newidiadau i’r BEL Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

2018-19

Y newid rhwng y Gyllideb Atodol gyntaf a’r Gwaelodlin diwygiedig ar gyfer 2017-18

Y newid rhwng Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18 a Chynlluniau Newydd (Cyllideb Ddrafft) 2018-19

2019-20

Newid rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a Chynlluniau newydd 2019-20 (Cyllideb ddrafft)



[1] https://www.nuffieldtrust.org.uk/research/shifting-the-balance-of-care-great-expectations

[2] http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/87127